Pam dod yn fusnes cynaliadwy?
Ydych chi erioed wedi ystyried yr effaith, cadarnhaol a negyddol, y mae eich busnes yn ei gael ar y tirlun a'r amgylchedd yr ydych yn dibynnu arno?
Mae twristiaeth yn effeithio pob man y mae'n ei gyffwrdd, ac yn arbennig felly'r llefydd hynny sydd â thirwedd fregus. Drwy ymroi i ddulliau amgylchedd-gyfrifol mae busnesau, eu gwesteion ac ymwelwyr o bob math i'r ardal yn gallu lleihau effaith twristiaeth a hefyd, hyd yn oed, cyfrannu at gadwraeth y lle.
Mae gwella arfer amgylcheddol eich busnes yn gwneud synnwyr.
Gydag ychydig o waith a buddsoddi fe allwch
- leihau eich biliau tanwydd a chost cael gwared ar wastraff
- ddenu mwy o gwsmeriaid
- mae yna ofyn cynyddol am lefydd i aros ac am weithgareddau sy'n lleihau effaith pobl ar yr amgylchedd.
Cymrwch olwg ar Astudiaethau Achos busnesau cynaliadwy i weld sut mae busnesau lleol wedi lleihau eu costau, wedi denu mwy o fusnes ac wedi ymestyn y tymor drwy fabwysiadu a marchnata arferion cynaliadwy.


